GWEINIDOGION Y DU SY'N GWEITHIO MEWN MEYSYDD DATGANOLEDIG
|
|
Rheoliadau Rhywogaethau Estron Goresgynnol (Diwygio etc.) (Ymadael â’r UE) 2019 Dyddiad gosod yn Senedd y DU: |
|
Sifftio |
|
A fydd angen eu sifftio yn Senedd y DU? |
Nac ydy |
Gweithdrefn: |
Cadarnhaol |
Dyddiad trafod gan Bwyllgor Offerynnau Statudol Ewropeaidd Tŷ'r Cyffredin |
Dd/B |
Dyddiad trafod gan Bwyllgor Craffu ar Is-ddeddfwriaeth Tŷ'r Arglwyddi |
|
Y dyddiad y daw'r cyfnod sifftio i ben yn Senedd y DU |
Dd/B |
Datganiad ysgrifenedig o dan Reol Sefydlog 30C: |
Papur 55 |
Memorandwm Cydsyniad Offeryn Statudol o dan Reol Sefydlog 30A (oherwydd ei fod yn diwygio deddfwriaeth sylfaenol) |
Nid yw'n ofynnol |
Gweithdrefn graffu |
|
Canlyniad y broses sifftio |
Dd/B |
Y weithdrefn |
Cadarnhaol |
Dyddiad trafod gan y Cyd-bwyllgor ar Offerynnau Statudol |
Ddim yn hysbys |
Dyddiad trafod gan Bwyllgor Offerynnau Statudol Tŷ'r Cyffredin |
Ddim yn hysbys |
Dyddiad trafod gan Bwyllgor Craffu ar Is-ddeddfwriaeth Tŷ'r Arglwyddi |
Ddim yn hysbys |
Sylwadau
Bwriedir i'r Rheoliadau hyn gael eu gwneud gan Lywodraeth y DU yn unol ag adran 8(1) o Ddeddf yr Undeb Ewropeaidd (Ymadael) 2018 a pharagraff 21 o Atodlen 7 iddi.
Pwrpas y Rheoliadau Rhywogaethau Estron Goresgynnol (Diwygio etc.) (Ymadael â'r UE) 2019 yw sicrhau bod deddfwriaeth sy'n gysylltiedig ag atal a rheoli cyflwyno a lledaenu rhywogaethau estron goresgynnol yn parhau i fod yn weithredol wedi inni ymadael â'r UE a bod yr amddiffynfeydd llym sydd wedi'u trefnu ar gyfer y rhywogaethau hyn yn cael eu cynnal. Mae'r offeryn hwn yn gwneud 'cywiriadau' i un darn o ddeddfwriaeth sy'n uniongyrchol berthnasol i ddeddfwriaeth yr UE a gweithredu'r ddeddfwriaeth ddirprwyedig oddi tano, ac mae hefyd yn cywiro'r broblem o'i weithredu yn Neddf Anifeiliaid Dinistriol a Fewnforir 1932.
Mae'r Cynghorwyr Cyfreithiol yn gwneud y sylwadau a ganlyn mewn perthynas â datganiad Llywodraeth Cymru dyddiedig 11 Rhagfyr 2018 ynghylch y Rheoliadau hyn. Mae'r Rheoliadau hyn yn enghraifft ddefnyddiol, mewn maes polisi cyfyngedig, o sut y gall trefniadau ar ôl Brexit weithredu mewn ardal lle mae rhai swyddogaethau wedi'u datganoli (ond nid eraill), ac mewn gwahanol ffyrdd o ran gwahanol rannau o'r Deyrnas Unedig. Maent yn cyflwyno'r cysyniad o awdurdodau priodol ar gyfer gwahanol rannau o'r DU ac yn nodi sut y byddant yn cydweithio.
Yn amodol ar y sylwadau uchod, mae'r crynodeb uchod a chynnwys y Memorandwm Esboniadol i'r Rheoliadau hyn yn cadarnhau eu heffaith ac i ba raddau y byddai'r Rheoliadau hyn yn creu polisi newydd mewn meysydd datganoledig.
Nid yw'r Cynghorwyr Cyfreithiol yn ystyried bod unrhyw faterion arwyddocaol yn codi o dan baragraff 8 y Memorandwm ar Fil yr Undeb Ewropeaidd (Ymadael) a Sefydlu Fframweithiau Cyffredin mewn perthynas â'r Rheoliadau hyn.
Nid yw'r Cynghorwyr Cyfreithiol wedi nodi unrhyw reswm cyfreithiol i geisio cynnig cydsyniad o dan Reol Sefydlog 30A.10 mewn perthynas â'r Rheoliadau hyn.
|